Llenwi’r Bwlch yn y Gwyliau

Canllawiau i sefydliadau sy’n darparu prydau i blant yn y gymuned yn ystod gwyliau’r ysgol.

Ein gweledigaeth yw sicrhau na fydd yr un plentyn yn mynd heb fwyd yn ystod gwyliau’r ysgol. Ein nod yw cefnogi cymunedau gyda fframwaith ar gyfer darparu bwyd da fel rhan o raglenni dysgu, chwarae a gweithgaredd yn ystod y gwyliau.

Dyma’r 10 prif faes i’w gwirio wrth ddatblygu rhaglenni sy’n darparu bwyd a gweithgareddau cyfoethogi i gau’r bwlch bwyd yn ystod gwyliau’r ysgol:

Principles Icon

Egwyddorion

Pam mae eich sefydliad eisiau darparu prydau yn ystod y gwyliau? – Ystyriwch eich dealltwriaeth o anghenion maeth a lles plant a phobl ifanc lleol ac ethos unrhyw grwpiau eraill yr hoffech greu partneriaeth â hwy.

Principles Icon

Pobl

A ydych wedi cytuno ar arweinydd ar gyfer eich prosiect, gyda llinellau cyfrifoldeb clir o ran staff a gwirfoddolwyr, partneriaid a chyllidwyr? Ystyriwch pwy yw’r person gorau i arwain eich prosiect a pha sgiliau defnyddiol fydd eu hangen arnoch i sicrhau ei fod yn llwyddo

Principles Icon

Cynllun

A ydych wedi llunio cyllideb ar gyfer eich prosiect? Aseswch eich capasiti mewn perthynas ag anghenion y gymuned a chynlluniwch yr hyn y gall eich prosiect ei wneud mewn gwirionedd. Lluniwch amserlen o’r hyn y bydd ei angen o ran adnoddau, a phryd. Ystyriwch sut y gallai eich prosiect gyd-fynd â gwasanaethau statudol eraill, gan gynnwys iechyd ac addysg.

Principles Icon

Partneriaeth

A ydych wedi cysylltu â’r partneriaid cywir i gael help i atgyfeirio a chyflawni eich prosiect? Cysylltwch ag ysgolion, timau cefnogi teuluoedd, asiantaethau fel iechyd cyhoeddus a thimau eich cyngor lleol, sefydliadau, cyflenwyr bwyd ac unigolion a all helpu eich prosiect yn y tymor byr, y tymor canolig a’r hirdymor. Ffurfiolwch eu cefnogaeth a chytunwch ar lwybrau atgyfeirio. Ystyriwch weithio gyda rhaglenni cyfredol.

Principles Icon

Polisïau

A yw’r polisïau cywir yn eu lle i ddiogelu eich prosiect a diogelu’r plant fydd dan eich gofal? Cofiwch sicrhau bod y polisïau cywir yn eu lle gennych i weithio gyda phlant a theuluoedd sy’n agored i niwed. Gallai’r rhain gynnwys - iechyd a diogelwch, hylendid bwyd, amddiffyn plant, cyfrinachedd, diogelu, ac yswiriant cyhoeddus. Cofiwch sicrhau, hefyd, bod eich gweithgareddau yn cydymffurfio â gofynion Ofsted/HMI/HSC/Estyn wrth weithio gyda phlant. Mae arferion gweithio diogel yn gwneud y rhain yn ofynnol yn ôl y gyfraith yn y DU.

Principles Icon

Adeilad

A ydych wedi canfod y lleoliad cywir ar gyfer eich prosiect? Gwnewch yn siŵr bod gennych safle sydd ar gael drwy gydol y prosiect, ac sydd â’r capasiti i ddiwallu anghenion eich prosiect. Os ydych yn gweithio gyda rhaglenni cyfredol, cofiwch sicrhau y gallwch addasu, naill ai’r cyflenwad neu’r safle yn ôl y gofyn.

Principles Icon

Paratoi

Sut y byddwch yn sicrhau y caiff eich prosiect ei gyflawni’n dda? Cofiwch farchnata’r prosiect ymlaen llaw, a chofrestrwch yr holl atgyfeiriadau gan roi sylw arbennig i ofynion deietegol ac anghenion ychwanegol yn ôl y gofyn. Trefnwch pwy fydd yn cyflenwi’r bwyd a chynlluniwch y gwaith paratoi. Sicrhewch fod yr ardystiad a’r anghenion hyfforddiant cywir gan y staff rheng flaen, e.e. llawlyfr diogelwch bwyd, polisïau. Ceisiwch gynnwys cyfranogwyr posibl a’u heiriolwyr/teuluoedd gymaint â phosibl yn y broses o gynllunio sut i gyflawni’r prosiect o ran darparu bwyd a gweithgareddau.

Principles Icon

Darpariaeth

A ydych wedi ystyried yr holl elfennau a fydd yn gwneud eich prosiect yn brofiad cymdeithasol da yn ogystal â darparu bwyd da? Mae gweithgareddau chwarae a hwyliog yn rhan werthfawr o brosiect llwyddiannus, felly cofiwch gytuno gyda’ch partneriaid sawl diwrnod y bydd y prosiect yn cael ei gynnal, yr hyn y bydd yn ei gynnig, pwy fydd ym mhob sesiwn ac amseroedd y sesiynau. Efallai yr hoffech wahodd asiantaethau allanol yn rheolaidd i helpu i atgyfeirio at wasanaethau cefnogol eraill.

Principles Icon

Y plât

A ydych wedi ystyried eich opsiynau o ran bwyd? Efallai yr hoffech amrywio eich arlwy a chynnig prydau poeth, pecynnau bwyd, hunan-arlwyo gwneud a blasu, neu gymysgedd o’r rhain. Dylid darparu ar gyfer gofynion deietegol a dewisiadau diwylliannol. Cofiwch gynnig bwyd sydd wedi’i baratoi’n ffres ac sy’n fwyd iach.

Principles Icon

Munud i feddwl

A ydych wedi ystyried yr effaith y gallai eich prosiect ei chael? Mae’n bwysig cadw cofnod o gyfranogiad a gweithgareddau. Drwy fonitro a gwerthuso eich prosiect, gallwch addasu i anghenion a dewisiadau’r cyfranogwyr. Gall hyn helpu i roi syniad o sut y gall eich prosiect barhau i wella a lle rydych yn wynebu heriau, efallai. Bydd hyn hefyd yn helpu i godi arian a dangos canlyniadau’r cymorth y mae eich prosiect yn ei roi i’ch cymuned.